S4C

Swyddog Cyfathrebu (Y Wasg)

Cyflogwr:
S4C
Cyflog:
£25,762 - £31,094 yn unol â phrofiad
Lleoliad:
Caerdydd tan fis Medi 2018, ac yna Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.
Dyddiad Cau:
13/08/2018
Termau'r Swydd:
Parhaol
Oriau:
Llawn amser
Disgrifiad:
O fis Medi 2018 ymlaen bydd pencadlys S4C yn adleoli i Ganolfan S4C: Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Bydd hyn yn gychwyn ar bennod newydd a chyffrous yn hanes S4C gan ymgartrefu yn y gorllewin mewn canolfan cyfryngau newydd wedi lleoli mewn adeilad pwrpasol.

Yn sgil yr adleoli rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu (Y Wasg) i ymuno â’r tîm Cyfathrebu.

Fe fyddwch wedi gweithio fel newyddiadurwr/wraig neu swyddog y wasg ac wedi arfer sgwennu datganiadau a chopi bachog. Byddwch wedi arfer cysylltu â’r wasg i werthu stori, neu i dderbyn galwadau gan newyddiadurwyr. Byddwch yn defnyddio’ch profiad a sgiliau i hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau S4C.

Hefyd byddwch yn ymwneud â cyfathrebu corfforaethol, rhagweithiol ac adweithiol y sianel.


Sut i wneud cais