S4C

Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol

Cyflogwr:
S4C
Cyflog:
£25,762 - £31,094 yn unol â phrofiad
Lleoliad:
Caerfyrddin
Dyddiad Cau:
31/08/2018
Termau'r Swydd:
Parhaol
Oriau:
Llawn amser
Disgrifiad:

Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Mae S4C yn chwilio am Reolwr Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn arwain ar y gwaith o ddatblygu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y sianel. Mae cyfrifon Facebook a Twitter S4C ymysg y cyfrifon Cymraeg sy’n cyrraedd y mwyaf o bobl bob wythnos. Felly mae angen i’r ymgeisydd llwyddiannus nid yn unig bod a phrofiad helaeth yn y maes ond hefyd deall cynulleidfa bresennol S4C a sut i dargedu'r carfannau hynny sydd ddim eto yn troi at gyfryngau cymdeithasol y sianel.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus arwain ar y gwaith o ddatblygu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol y sianel gan gyd-weithio gyda chynhyrchwyr annibynnol ac adrannau mewnol er mwyn sicrhau fod y cynnwys mwyaf beiddgar yn ymddangos.

 

Sut i wneud cais