
Golygydd Fideo

Y Swydd:
Rydym yn chwilio am olygydd fideo, sydd â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd golygu 'Avid Media Composer'. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag un o brif gwmnïau teledu a chynhyrchu ffilm annibynnol y DU. Byddwch yn gweithio o fewn tîm o olygyddion talentog a deinamig ar raglenni teledu byw..
Lleoliad y Swydd: Llanelli
Crynodeb:
Mae Tinopolis yn grŵp byd-eangsydd â swyddfeydd a chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru, Llundain, Glasgow, Washington DC a Los Angeles. Rydym yn darparu dros 500 awr o raglenni teledu byw ac wedi'i recordio ymlaen llaw bob blwyddyn o’n stiwdio yn Llanelli. Os yn llwyddiannus yn eich cais, byddwch yn ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig lle mae creadigrwydd, ansawdd, dibynadwyedd, a rhagoriaeth dechnegol yn ganolog i bopeth a wnawn.
Sgiliau allweddol :
Hanfodol:
• Profiad gyda Avid Media Composer.
• Creadigrwydd
• Siaradwr Cymraeg
Dymunol:
• Dealltwriaeth dda o wahanol codecs
• Profiad o ddefnyddio Interplay ac Avid Media Central
Nodweddion personol:
• Y gallu i ddeall cysyniadau newydd yn rhwydd
• Hands on, meddylfryd “can-do”
• Agwedd brwdfrydig a hyblyg
• Y gallu i weithio'n gyflym, dan bwysau ac i derfynau amser caeth
Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU neu'r UE. Bydd yn ofynnol tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o'r broses recriwtio.
Sut i wneud cais
-
CV a llythyr cais at:
Swyddi
Tinopolis Cyf,
Canolfan Tinopolis,
Stryd y Parc,
Llanelli,
Sir Gaerfyrddin.
SA15 3YE.
Neu e-bost i : Swyddi@tinopolis.comDyddiad cau: 18 Mawrth 2019
-
Gwefan: