Cydlynydd/Hyfforddwr Prosiect a Swyddog Allgymorth (2 swydd)
Ar ôl cais llwyddiannus diweddar i Ganolfan Cydweithredol Cymru o dan Raglen Cymunedau'n Gyntaf 2.0 i gyflwyno Prosiect Cynhwysiant Digidol yn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf yng Ngwynedd, rydym eisiau recriwtio dau aelod o staff i fynd â'r prosiect yma yn ei flaen a darparu hyfforddiant mewn Technoleg Gwybodaeth. Cyflwynir y prosiect mewn partneriaeth gyda chwe Phartneriaeth Cymunedau'n gyntaf yng Ngwynedd sef; Abermaw, Bowydd a Rhiw, Marchog, De Pwllheli, Peblig a Thalysarn/Nantlle.
Mae Deudraeth eisiau penodi:
Cydlynydd/Hyfforddwr Prosiect - £25k- £27,498
Yn gyfrifol am hyfforddiant a'i ddarpariaeth, cydlynu gweithgareddau ac adnoddau i gefnogi Prosiect Digidol Gwynedd mewn amryfal ardaloedd yng Ngwynedd (6 Ward Cymunedau'n Gyntaf).
Swyddog Allgymorth - £21k-£23,636
Darparu cymorth i staff prosiect Digidol Gwynedd; recriwtio, marchnata, gwirfoddolwyr, hyfforddiant a dyletswyddau gweinyddol.
Hysbyseb yw'r uchod am Gydlynydd/Hyfforddwr Prosiect a Swyddog Allgymorth i Deudraeth Cyf .
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Yn gyfrifol am hyfforddiant Technoleg Gwybodaeth a’i ddarpariaeth, cydlynu gweithgareddau ac adnoddau i gefnogi Prosiect Digidol Gwynedd mewn amryfal ardaloedd yng Ngwynedd (6 Ward Cymunedau’n Gyntaf).
Sut i ymgeisio
-
Y dyddiad cau i'r ceisiadau yw: 17.02.2012
Rydym yn bwriadu cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 27.02.2012. Os na fydd ymgeiswyr wedi clywed dim erbyn y dyddiad yma, yna ni fyddant ar y rhestr fer.I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
-
Enw cyswllt:Mrs Keneuoe Morgan
-
Cyfeiriad y Cwmni:
Deudraeth Cyf
Llys Deudraeth
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6 BL -
Ffôn:01766771795
-
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: