GWEITHWYR SAFLE

Cyflogwr:
Dŵr Dyffryn Dyfrdwy
Cyflog:
Cyflog i'w gytuno
Lleoliad:
Wrecsam
Dyddiad Cau:
13/07/2012
Termau'r Swydd:
Dros Dro
Oriau:
Llawn amser
Dŵr Dyffryn Dyfrdwy
Disgrifiad:

Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn darparu dŵr yfed ar gyfer poblogaeth o oddeutu 250,000 o bobl ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru, Caer a'r ardaloedd o gwmpas. Mae'r Cwmni ar hyn o bryd yn chwilio am ymgeiswyr gyda chymwysterau addas ar gyfer y swydd canlynol:-

GWEITHWYR SAFLE

Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn cynnig contractau dros dro ar gyfer Gweithwyr Safle i weithio o fewn yr Adran Gwasanaethau. Mae'r contract am naw mis yn y lle cyntaf a gall arwain at gynnig gwaith parhaol.

Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflawni pob agwedd ar waith safle'n gysylltiedig â gosod ac ailosod pibellau a chynnal a chadw ac atgyweirio'r rhwydwaith cyflenwi dŵr tanddaearol.

Byddai profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd tebyg o fantais ond nid yw'n angenrheidiol gan fod hyfforddiant cynhwysfawr ar gael i ymgeiswyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol.

Mae'r gwaith hwn yn cynnwys symud llwythau trymion gyda rhai cymhorthion mecanyddol ar gael. Bydd yr ymgeiswyr hefyd yn gweithio mewn cloddiadau dyfnion ac weithiau mewn mannau cyfyng.

Rhaid i'r holl ymgeiswyr feddu ar agwedd hyblyg tuag at waith a bod â thrwydded yrru briodol lawn a glân. Gallai trwydded cerbyd nwyddau trwm fod yn ddefnyddiol hefyd mewn rhai achosion.

Sut i ymgeisio

  • DYDDIAD CAU AR GYFER DERBYN CEISIADAU: Dydd Gwener 13 Gorffennaf 2012

    I ymgeisio, anfonwch lythyr cais a braslun gyrfa cyfredol, os gwelwch yn dda, at:


  • Enw cyswllt:
    Y Rheolwr Adnoddau Dynol / The Human Resources Manager
  • Cyfeiriad y Cwmni:

    Dŵr Dyffryn Dyfrdwy,

    Packsaddle,

    Ffordd Wrecsam,

    Rhostyllen,

    Wrecsam

    LL14 4EH.

  • Gwefan Gymraeg: