Cyhoeddwr Dwyieithog
PCOM05
Mae Swyddfa Archwilio Cymru am benodi Cyhoeddwr Dwyieithog dros dro (9 mis) i gefnogi tîm Cyfathrebu mewnol prysur yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Bydd y cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
• cynorthwyo'r Cydlynydd Cyhoeddiadau wrth gynhyrchu cyhoeddiadau Swyddfa Archwilio Cymru mewn ffordd amserol;
• cynghori a chynorthwyo staff ar bolisïau a gweithdrefnau cyhoeddi Swyddfa Archwilio Cymru, yn enwedig y defnydd o arddull mewnol Swyddfa Archwilio Cymru;
• cyfieithu dogfennau bach a chynorthwyo Swyddog yr Iaith Gymraeg wrth gynghori staff ar bolisïau a gweithdrefnau cyfieithu;
• cynorthwyo'r tîm Cyfathrebu ehangach, yn ôl y galw, megis gyda digwyddiadau a chyfathrebu allanol.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn cwrdd â'r meini prawf isod:
• Addysg hyd at lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol
• Ardystiad proffesiynol fel cyfieithydd Cymraeg yn ddymunol neu barodrwydd i weithio tuag at hynny
• Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn ddymunol
• Wedi cyflawni hyfforddiant y Gymdeithas i Olygyddion a Darllenwyr Proflenni (SfEP) neu'n barod i ddysgu
• Gwybodaeth ymarferol ardderchog o Microsoft Office (Word, Excel, PowerPoint, Access ac Outlook)
• Yn gyfarwydd ag Adobe InDesign (neu feddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith tebyg) neu'n barod i ddysgu amdano
• Yn gyfarwydd â systemau rheoli cynnwys neu barodrwydd i ddysgu
• Mae profiad o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu a/neu gyhoeddi yn hanfodol
• Mae profiad o brawfddarllen yn Gymraeg ac yn Saesneg yn hanfodol
• Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd dwyieithog o fantais
Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r swydd, cliciwch yma: http://www.wao.gov.uk/cymraeg/aboutus/1174.asp
Am drafodaeth anffurfiol, ffoniwch Michael Jones ar 02920320581
Sut i ymgeisio
-
I wneud cais, anfonwch yr holl ddogfennau canlynol (ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru) Gyrfaoedd (linc isod)
• Ffurflen Gais
• Ffurflen Monitro Cyfleodd Cyfartal
I'r cyfeiriad post neu ebost isodY dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 24 Awst 2012. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr.
Bydd Canolfan Asesu ar gyfer ymgeiswyr sydd yn llwyddiannus yn y cyfnod sifft cychwynnol yn cael ei gynnal yn y swyddfa yng Nghaerdydd ar 12 Medi 2012. -
Cyfeiriad y Cwmni:
Swyddfa Archwilio Cymru
Yr Adran Adnoddau Dynol
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ -
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: