YMGYNGHORYDD TRWYDDEDU CERDDORIAETH GYMRAEG
Mae Cynghrair PRS for Music yn gartref i gyfansoddwyr a chyhoeddwyr gorau'r byd. Rydym yn cynrychioli cerddoriaeth y byd ac yn galluogi busnesau ac unigolion i sicrhau hawliau cerddoriaeth ar gyfer eu busnesau, cynnyrch a chynhyrchiadau yn y ffordd fwyaf effeithiol
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm a fydd yn gyfrifol am drwyddedu defnydd o gerddoriaeth mewn rhaglenni Cymraeg a gynhyrchir ar gyfer S4C
Mae hwn yn swydd fasnachol gyda phwyslais ar greu cyllid i'n haelodau sef cyfansoddwyr, awduron a chyhoeddwyr cerddoriaeth. Mae'r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl a chywir yn angenrheidiol ynghyd â gwybodaeth eang o gerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg. Bydd yr ymgeisydd yn prosesu data cerddoriaeth a ddefnyddir ar raglenni S4C. Bydd gwybodaeth o hawlfraint yn fuddiol ond gallwn gynnig hyfforddiant bellach.
Bydd angen sgiliau cyfathrebu a'r gallu i sicrhau canlyniadau o fewn terfynau amser. Bydd angen sgiliau dadansoddi, gweinyddu a llygad barcud am fanylyn. Byddai diddordeb yn y farchnad ddarlledu hefyd yn fanteisiol.
Yn PRS for Music, rydym yn cydnabod, yn croesawu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi ymrwymo i greu gweithle lle mae pob gweithiwr yn cael y cyfle i gyrraedd ei llawn botensial, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol i gyflawni ein gol.
Sut i ymgeisio
-
Os hoffech fwy o wybodaeth am y swydd cyn ymgeisio, cysylltwch â Danny Adams: 02073064157
I ymgeisio, gyrrwch CV a llythyr os gwelwch yn dda, yn esbonio eich priodoldeb ar gyfer y swydd at: -
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: