Swyddog Hyfforddi a Datblygu
Cymorth Cynllunio Cymru yw'r elusen gofrestredig sy'n gweithio i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'r system gynllunio defnydd tir yng Nghymru, a'u cyfraniad at y system hynny.
Rydym yn chwilio am unigolyn hunan-ysgogol a threfnus sy'n gallu gweithio gydag eraill i gychwyn a datblygu prosiectau hyfforddi.
Byddwch yn cydlynu a datblygu rhaglenni hyfforddi Cymorth Cynllunio Cymru ar gyfer grwpiau difreintiedig, cynrychiolwyr cymunedol a phroffesiynolwyr cynllunio.
Cynigir y swydd i gychwyn ar gytundeb penodol o chwe mis, ond bwriadwn wneud y swydd yn un barhaol yn ddibynnol ar gyllid. Ystyrir ceisiadau gan bobl â diddordeb mewn rhannu'r swydd.
Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn ymdrechu i fod yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal.
Sut i ymgeisio
-
Mae pecynnau ymgeisio ar gael i'w lawrlwytho o'n gwefan
www.cymorthcynlluniocymru.org.uk/about-us/recruitmentneu drwy ffonio 02920 625009.
Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw canol dydd, Dydd Iau 30 Medi 2010.
Am sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd, cysylltwch ag Elwyn Thomas ar 01766 762244 neu anfonwch neges e-bost ato yn: elwyn@cymorthcynlluniocymru.org.uk
-
Ffôn:02920 625009
-
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: