CYHOEDDWR DWYIEITHOG
Mae Job Trac Cymru : asiantaeth recriwito siaradwyr Cymraeg yn edrych am berson i ddechrau cyn gynted â phosib ar sail "dros dro i barhaol" i weithio i'n cleient - cwmni mawr cyhoeddus yng nghanol Caerdydd.
Cyfrifoldebau Allweddol
Fel rhan o dîm, byddwch yn cyfrannu at gyflawni amcan allweddol Swyddfa Archwilio Cymru o wneud i arian cyhoeddus gyfrif.
• Cynorthwyo'r Cydlynydd Cyhoeddiadau wrth gynhyrchu cyhoeddiadau Swyddfa Archwilio Cymru mewn ffordd amserol.
• Cynghori a chynorthwyo staff ar bolisïau a gweithdrefnau cyhoeddi Swyddfa Archwilio Cymru, yn enwedig y defnydd o arddull mewnol Swyddfa Archwilio Cymru.
• Cyfieithu dogfennau bach a chynorthwyo swyddog yr iaith Gymraeg wrth gynghori staff ar bolisïau a gweithdrefnau cyfieithu.
• Cynorthwyo'r tîm cyfathrebu ehangach, yn ôl y galw ‒ megis gyda digwyddiadau a chyfathrebu allanol.
Cyflog o gwmpas £8.50 yr awr (dros dro) wedyn £16,280 - £19200 y flwyddyn - parhaol
LLAWN AMSER, Llun i Gwener
Lleoliad: Caerdydd Canolog
MANYLEB PERSON
• Addysg hyd at lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol
• Ardystiad proffesiynol fel cyfieithydd Cymraeg yn hanfodol neu barodrwydd i weithio tuag at hynny
• Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn ddymunol
• Wedi cyflawni hyfforddiant y Gymdeithas i Olygyddion a Darllenwyr Proflenni (SfEP) neu'n barod i ddysgu.
• Gwybodaeth ymarferol ardderchog am becynnau Microsoft Office, yn enwedig prosesu geiriau a swyddogaethau fformatio, Word, Excel ac Outlook.
• Yn gyfarwydd â phecyn meddalwedd cyhoeddi Quark neu'n barod i ddysgu amdano.
• Cyffyrdd-deipio (o leiaf 50 gair y funud)
• Mae profiad o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu a/neu gyhoeddi yn hanfodol.
• Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd dwyieithog o fantais.
• Profiad o brawfddarllen yn Gymraeg ac yn Saesneg
• Mae rhuglder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol.
• Sylw gofalus i fanylder a chywirdeb gyda Chymraeg a Saesneg ysgrifenedig o safon uchel
• Y gallu i reoli nifer o dasgau amrywiol ar yr un pryd.
Sut i ymgeisio
-
I ymgeisio cysylltwch cyn gynted â phosib am swydd ddisgrifad llawn a ffurflen gais.
-
Enw cyswllt:Tracey Williams
-
Ffôn:01443 207990
-
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: