Swyddog Cefnogi Cywain - Prosiectau Bwyd

Cyflogwr:
Job Trac Cymru
Cyflog:
£18,524 - £21,506 y flwyddyn
Lleoliad:
Caerdydd
Termau/Dyddiau am Swyddi Dros Dro/Tymor Penodol:
cytundeb am flwyddyn i gychwyn
Dyddiad Cau:
20/09/2010
Termau'r Swydd:
Tymor Penodol
Oriau:
Llawn amser
Job Trac Cymru
Disgrifiad:

Mae Job Trac Cymru (asiantaeth recriwtio) yn chwilio am Swyddog Cefnogi Cywain (Amaeth) i gwmni mawr yng Nghaerdydd.

Prif Ddyletswyddau

• Darparu pob elfen o gymorth swyddfa
• Cyd-lynu cyfarfodydd mewnol ac allanol
• Trefnu digwyddiadau
• Cydlynu, casglu, cyflwyno a storio pob gwybodaeth angenrheidiol
• Datblygu a rheoli bas data a systemau casglu gwybodaeth prosiect
• Cynnal gwaith ymchwil yn ôl y galw
• Cefnogi Rheolwr a staff y prosiect yn ôl y galw
• Paratoi adroddiadau misol ar gyfer noddwyr gan weithio yn agos gyda'r Rheolwr Prosiect, yn ogystal ag adroddiadau chwarterol ar gyfer y cwmni.

Rhaid dangos cyn profiad o'r dyletswyddau uchod.

Bydd profiad o weithio'n ddwyieithog yn fantais.

Cymraeg safon uchel, ar lafar ac ysgrifenedig yn hanfodol.

 

Sut i ymgeisio