Swyddog Teuluoedd, Plant a Phobl Ifainc

Cyflogwr:
Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Cyflog:
£19,000 y flwyddyn (+ cyfraniad pensiwn 10%)
Lleoliad:
Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Dyddiad Cau:
17/09/2010
Termau'r Swydd:
Parhaol
Oriau:
Llawn amser
Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Disgrifiad:

HOFFI SIALENS? AM WNEUD GWAHANIAETH?
GWAHODDIR CEISIADAU GAN UNIGOLION BRWDFRYDIG AC YMRODDGAR AM Y SWYDD ISOD

Swyddog Teuluoedd, Plant a Phobl Ifainc
Cyflog £19,000 y flwyddyn (plws cyfraniad pensiwn 10%). Swydd llawn amser.
Cytundeb 5 mis ond bwriadwn wneud y swydd yn un barhaol yn ddibynnol ar gyllid.

Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn edrych am berson bywiog a brwdfrydig i ymuno â'r Fenter. Bydd y swyddog yn gyfrifol am ddatblygu a marchnata cynlluniau fydd yn codi proffil y Gymraeg o fewn ysgolion cynradd Gymraeg, uwchradd Gymraeg a Saesneg a chymunedau Torfaen. Bydd y person a benodir yn drefnydd effeithiol a gyda'r hyder i gynnig a datblygu syniadau cyffrous yn ogystal â'r gallu i ddylanwadu, meithrin perthynas a chyd weithio a sefydliadau'r ardal.

Ariennir y swydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cyflawni'r prawf CRB a'r geirda angenrheidiol.

 

Sut i ymgeisio

  • Am gael rhagor o wybodaeth a phecyn ymgeisio anfonwch e-bost at helen@menterbgtm.org neu ffoniwch 01633 489325 / 07728907772.

    Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17/09/10
    Cynhelir cyfweliadau: 24/09/10


  • Enw cyswllt:
    Helen Coleman
  • Ffôn:
    01633 489325
  • e-bost:
  • Gwefan Gymraeg: