Safle Swyddi
Swyddog Teuluoedd, Plant a Phobl Ifainc
      <company>Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy </company>
      <description>HOFFI SIALENS? AM WNEUD GWAHANIAETH? GWAHODDIR CEISIADAU GAN UNIGOLION BRWDFRYDIG AC YMRODDGAR AM Y SWYDD ISODSwyddog Teuluoedd, Plant a Phobl IfaincCyflog £19,000 y flwyddyn (plws cyfraniad pensiwn 10%). Swydd llawn amser.Cytundeb 5 mis ond bwriadwn wneud y swydd yn un barhaol yn ddibynnol ar gyllid.
Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn edrych am berson bywiog a brwdfrydig i ymuno â'r Fenter. Bydd y swyddog yn gyfrifol am ddatblygu a marchnata cynlluniau fydd yn codi proffil y Gymraeg o fewn ysgolion cynradd Gymraeg, uwchradd Gymraeg a Saesneg a chymunedau Torfaen. Bydd y person a benodir yn drefnydd effeithiol a gyda'r hyder i gynnig a datblygu syniadau cyffrous yn ogystal â'r gallu i ddylanwadu, meithrin perthynas a chyd weithio a sefydliadau'r ardal.Ariennir y swydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cyflawni'r prawf CRB a'r geirda angenrheidiol.
Swyddog Cefnogi Cywain - Prosiectau Bwyd
      <company>Job Trac Cymru</company>
      <description>Mae Job Trac Cymru (asiantaeth recriwtio) yn chwilio am Swyddog Cefnogi Cywain (Amaeth) i gwmni mawr yng Nghaerdydd.
Prif Ddyletswyddau• Darparu pob elfen o gymorth swyddfa• Cyd-lynu cyfarfodydd mewnol ac allanol• Trefnu digwyddiadau• Cydlynu, casglu, cyflwyno a storio pob gwybodaeth angenrheidiol• Datblygu a rheoli bas data a systemau casglu gwybodaeth prosiect• Cynnal gwaith ymchwil yn ôl y galw• Cefnogi Rheolwr a staff y prosiect yn ôl y galw• Paratoi adroddiadau misol ar gyfer noddwyr gan weithio yn agos gyda'r Rheolwr Prosiect, yn ogystal ag adroddiadau chwarterol ar gyfer y cwmni.
Rhaid dangos cyn profiad o'r dyletswyddau uchod.
Bydd profiad o weithio'n ddwyieithog yn fantais.
Cymraeg safon uchel, ar lafar ac ysgrifenedig yn hanfodol.
Cynorthwy-ydd Personol i'r Prif Weithredwr / Rheolwr Swyddfa
      <company>Job Trac Cymru</company>
      <description>Mae'n bleser gan Job Trac Cymru, asiantaeth recriwtio siaradwyr Cymraeg, y fraint o recriwtio am gwmni mawr yn Aberystwyth.
Rydyn ni'n edrych am berson sydd â sgiliau gweinyddol heb ei ail i weithio fel "Cynorthwyydd Personol" i'r Prif Weithredwr a rheolwyr eraill yn ogystal â rheoli'r swyddfa.
Bydd angen cyn profiad o swydd weinyddol ar y lefel yma ynghyd a sgiliau cyfathrebu safon uchel ar lafar ac yn y ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg.</description>
CYHOEDDWR DWYIEITHOG
      <company>Job Trac Cymru</company>
      <description>Mae Job Trac Cymru :  asiantaeth recriwito siaradwyr Cymraeg yn edrych am berson i ddechrau cyn gynted â phosib ar sail "dros dro i barhaol" i weithio i'n cleient -  cwmni mawr cyhoeddus yng nghanol Caerdydd.
Cyfrifoldebau Allweddol
Fel rhan o dîm, byddwch yn cyfrannu at gyflawni amcan allweddol Swyddfa Archwilio Cymru o wneud i arian cyhoeddus gyfrif. • Cynorthwyo'r Cydlynydd Cyhoeddiadau wrth gynhyrchu cyhoeddiadau Swyddfa Archwilio Cymru mewn ffordd amserol. • Cynghori a chynorthwyo staff ar bolisïau a gweithdrefnau cyhoeddi Swyddfa Archwilio Cymru, yn enwedig y defnydd o arddull mewnol Swyddfa Archwilio Cymru.• Cyfieithu dogfennau bach a chynorthwyo swyddog yr iaith Gymraeg wrth gynghori staff ar bolisïau a gweithdrefnau cyfieithu. • Cynorthwyo'r tîm cyfathrebu ehangach, yn ôl y galw ‒ megis gyda digwyddiadau a chyfathrebu allanol.
Cyflog o gwmpas £8.50 yr awr (dros dro) wedyn £16,280 - £19200 y flwyddyn - parhaol
LLAWN AMSER, Llun i Gwener
Lleoliad: Caerdydd Canolog
MANYLEB PERSON• Addysg hyd at lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol • Ardystiad proffesiynol fel cyfieithydd Cymraeg yn hanfodol neu barodrwydd i weithio tuag at hynny• Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn ddymunol• Wedi cyflawni hyfforddiant y Gymdeithas i Olygyddion a Darllenwyr Proflenni (SfEP) neu'n barod i ddysgu.• Gwybodaeth ymarferol ardderchog am becynnau Microsoft Office, yn enwedig prosesu geiriau a swyddogaethau fformatio, Word, Excel ac Outlook.• Yn gyfarwydd â phecyn meddalwedd cyhoeddi Quark neu'n barod i ddysgu amdano.• Cyffyrdd-deipio (o leiaf 50 gair y funud)• Mae profiad o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu a/neu gyhoeddi yn hanfodol. • Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd dwyieithog o fantais. • Profiad o brawfddarllen yn Gymraeg ac yn Saesneg• Mae rhuglder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol.• Sylw gofalus i fanylder a chywirdeb gyda Chymraeg a Saesneg ysgrifenedig o safon uchel• Y gallu i reoli nifer o dasgau amrywiol ar yr un pryd.
Swyddog Hyfforddi a Datblygu
      <company>Cymorth Cynllunio Cymru</company>
      <description>Cymorth Cynllunio Cymru yw'r elusen gofrestredig sy'n gweithio i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'r system gynllunio defnydd tir yng Nghymru, a'u cyfraniad at y system hynny.
Rydym yn chwilio am unigolyn hunan-ysgogol a threfnus sy'n gallu gweithio gydag eraill i gychwyn a datblygu prosiectau hyfforddi.
Byddwch yn cydlynu a datblygu rhaglenni hyfforddi Cymorth Cynllunio Cymru ar gyfer grwpiau difreintiedig, cynrychiolwyr cymunedol a phroffesiynolwyr cynllunio.
Cynigir y swydd i gychwyn ar gytundeb penodol o chwe mis, ond bwriadwn wneud y swydd yn un barhaol yn ddibynnol ar gyllid. Ystyrir ceisiadau gan bobl â diddordeb mewn rhannu'r swydd.
Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn ymdrechu i fod yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal.
Technegydd Sain, Logio, Llwytho, Rhedwyr Technegol
      <description>Rydym yn edrych am bobl frwdfrydig i ymuno a'r adran ôl gynhyrchu.
Rydym yn edrych am unigolion sydd newydd adael coleg, neu sy'n gymwys neu'n brofiadol o fewn y maes ôl gynhyrchu yn benodol Sain, Logio, Llwytho a Rhedwyr Technegol.
Bydd trwydded yrru gyfredol a'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn ddelfrydol.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 10/09/10. Cyfweliadau: Dydd Mercher 15/09/10</description>
SWYDDOG MAES MORGANNWG-GWENT
      <company>Cymdeithas yr Iaith Gymraeg</company>
      <description>Am fwy o wybodaeth a disgrifiad llawn o'r swydd cysylltwch gyda Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar 07973820580 neu menna@cymdeithas.org</description>
SWYDDOG IEUENCTID A CHYMUNED
      <description>Array</description>
Gweithwyr Chwarae 
      <company>Menter Iaith Rhondda Cynon Taf</company>
      <description>Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn chwilio am weithwyr chwarae byrlymus, creadigol a chymwys i weithio yn eu clybiau chwarae newydd.
Mae'r clybiau yn rhedeg o 3.30 tan 5.00, pedair gwaith yr wythnos yn Ysgolion Ynyswen ger Treorci a Llyn y Forwyn, Glynrhedyn. Rhaid i ymgeiswyr fod â chymhwysder Cache 2 mewn chwarae ( neu Cache 3 i arwain os yn bosib) a chymwysder cymorth cyntaf yn ogystal.
Siaradwyr Cymraeg
      <company>Job Trac Cymru</company>
      <description>Siarad Cymraeg?
Edrych am swydd newydd?
Cofrestrwch gyda'r arbenigwyr recriwtio siaradwyr Cymraeg : Job Trac Cymru.
Mae asiantaeth Job Trac Cymru wedi bodoli ers 2005 ac wedi ennill y wobr "Cwmni Dwyieithog y Flwyddyn" 2008, 2009 a 2010.
Rydyn ni'n gweithredu fel asiantaeth arferol gyda swyddi dros dro a pharhaol OND mae bob un swydd yn gofyn am y Gymraeg.</description>
Gweithwyr Maes x 2
      <company>Menter Patagonia</company>
      <description>Mae cynllun Menter Patagonia yn chwilio am weithwyr maes newydd.
Prif amcanion y cynllun fydd creu;
Cyfleoedd i gymdeithasu trwy'r GymraegCyfleoedd i unigolion o'r Wladfa astudio a gweithio yng NghymruCyfleoedd i unigolion o Gymru (Ieuenctid gan amlaf )i wneud gwaith Gwirfoddol yn y WladfaCydweithio efo'r rhaglen dysgu Cymraeg
Mae'r cynllun am gyflogi berson i weithio yn Y Wladfa am gyfnod i drafod. Hoffwn clywed gennych os ydach yn meddwl eich bod yn ddigon deinamig ac yn meddu ar y rhinweddau i sicrhau parhad i lwyddiant y cynllun.
Am swydd ddisgrifiad cewch i: www.menterpatagonia.org
Cynllun ar y cyd rhwng y sefydliadau canlynol:
CYMEITHAS CYMRU - ARIANNIN
Athrawon x 3
      <company>Cyngor Prydeinig</company>
      <description>Cynllun yr Iaith Gymraeg yn y Wladfa
A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg yn y Wladfa?
Beth am her newydd a phrofiadau gwerth chweil?
Rydym yn chwilio am athrawon cymwys a phrofiadol i ddysgu plant (cynradd/ arddegau) ac oedolion (pob safon) ar gyfer Mawrth - Rhagfyr 2011
Cyflog misol o £750, ynghyd â thaith awyren, yswiriant iechyd, a llety.
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni cais yw10 Medi 2010.
Mae'r Cyngor Prydeinig yn ymrwymedig i bolisi cyfle cyfartal ac mae'n awyddus i adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas y DU ar bob lefel yn y sefydliad. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Rydym yn sicrhau y caiff ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol eu cyfweld. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn darllen testun safonol nodi ym mha fformat yr hoffent gael pecyn cais: print mawr, Braille, disg cyfrifiadur neu dâp sain.
Sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig dros gydberthnasau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Elusen gofrestredig: 209131 (Cymru a Lloegr) SC037733 (Yr Alban).
Swyddog Y Dysgwyr - Ail Hysbyseb
      <company>Eisteddfod Genedlaethol Cymru</company>
      <description> Mae hwn yn gyfle i berson brwdfrydig ac egnïol wneud cyfraniad ymarferol i hybu'r iaith Gymraeg. Bydd y Swyddog yn gwasanaethu yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn gyfrifol am drefnu rhaglen o weithgareddau i ddysgwyr ym Maes D yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Byddwch yn cyd-weithio â Chanolfannau Cymraeg i Oedolion yn nalgylch yr Eisteddfod dros y ddwy flynedd nesaf i ddarparu rhaglen o gyrsiau blasu a gweithgareddau dysgu anffurfiol drwy'r flwyddyn er mwyn annog rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg.
Bydd gofyn gweithio gyda'r nos a, weithiau, dros benwythnosau. Mae'r swydd yn cychwyn ym mis Medi 2010, neu cyn gynted â phosib, ar gytundeb o ddwy flynedd hyd at 31 Awst 2012. Disgwylir i'r Swyddog weithio o swyddfa'r Eisteddfod yng Nghaerdydd ac/neu yn Yr Wyddgrug. 
Diben y swyddBydd y Swyddog yn gwasanaethu'r Eisteddfod Genedlaethol, gan gefnogi'r gweithgareddau i ddysgwyr y Gymraeg cyn, yn ystod ac ar ôl yr Eisteddfod. Bydd y Swyddog hefyd yn trefnu rhaglen o weithgareddau dysgu anffurfiol trwy'r flwyddyn, yn ogystal â hyrwyddo cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn ardal yr Eisteddfod, a cheisio denu dysgwyr newydd.
Yn atebol i: Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
Prif Gyfrifoldebau Dylech wneud pob ymdrech i sicrhau bod eich cais yn dangos yn glir eich gallu a'ch profiad yn y meysydd isod:
1. Trefnu gweithgareddau dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â swyddogion ac Is-Bwyllgor Dysgwyr yr Eisteddfod, gan gynnwys:a. Trefnu Arddangosfa a rhaglen weithgareddau Maes D (Pabell y Dysgwyr ar Faes yr Eisteddfod);b. Cynorthwyo gyda threfniadau cystadlaethau Adran y Dysgwyr, gan gynnwys cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn;c. Cynorthwyo'r Is-bwyllgor Dysgwyr gyda threfniadau gweithgareddau a drefnir ganddynt cyn ac ar ôl yr Eisteddfod;d. Marchnata'r Eisteddfod ymhlith dysgwyr y Gymraeg;
2. Cyd-weithio â Chanolfannau Cymraeg i Oedolion yn ardal yr Eisteddfod dros y tair blynedd nesaf i ddarparu rhaglen o gyrsiau blasu a gweithgareddau dysgu anffurfiol drwy gydol y flwyddyn er mwyn denu rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg ac i ymweld â'r Eisteddfod.
3. Gwasanaethu Panel Dysgwyr Canolog yr Eisteddfod Genedlaethol
CyflogPenodir ar raddfa NJC 23 i 27 (£19,998 i £22,730)
Lleoliad y swyddLleolir y swydd yn swyddfa'r Eisteddfod yng Nghaerdydd ac/neu yn Yr Wyddgrug.
Manyleb BersonolHanfodol• gradd gychwynnol a/neu brofiad sylweddol o waith perthnasol• y gallu i ymdrîn â phobl eraill• sgiliau cyfathrebu ardderchog yn ysgrifenedig ac ar lafar• y gallu i siarad ac ysgrifennu'n gwbl rugl yn y Gymraeg a'r Saesneg• y gallu i drefnu eich gwaith eich hunain• parodrwydd i weithio gyda'r nos a/neu ar benwythnosau• y gallu i drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau• gallu defnyddio pecynnau TG, gan gynnwys e-bost a phrosesydd geiriau• diddordeb cyffredinol yn hyrwyddo'r diwylliant Cymreig a helpu dysgwyr a siaradwyr rhugl i'w werthfawrogi• trwydded yrru lawn a defnydd o gerbyd
Manteisiol• profiad o weithio ym maes Cymraeg i Oedolion, neu brofiad o ddysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgol;• profiad o hyrwyddo a marchnata;• profiad o reoli prosiectau.
Nyrs Meithrin
      <company>Darling Buds Nursery</company>
      <description>Mae "Darling Buds Nursery" yn feithrinfa sefydledig sydd ar fin ehangu i fod yn feithrinfa 96 lle. Mae'n feithrinfa brysur, hapus a chyfeillgar ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn fwy o siaradwyr Cymraeg i'n dîm cartrefol.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Nyrs Meithrin i ymuno â Meithrinfa brysur ym Mae Caerdydd i ddechrau'n syth.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf NVQ lefel 2 neu gywerth ac yn rhugl yn yr iaith Gymraeg.
Gallem gynnig cyfraddau cyflog cystadleuol iawn yn ogystal â chyfleon i hyfforddi ymhellach.
Mae'r swydd yn un llawn amser, o ddydd Llun i ddydd Gwener a byddwch yn gweithio amserlen 7.5 awr y dydd o fewn yr oriau 07.45 tan 18.00</description>