
Swyddog Cymorth Newid Cyfansoddiadol

Mae Comisiwn y Cynulliad wrthi'n cyflwyno rhaglen uchelgeisiol o ddiwygio etholiadol a sefydliadol. Fel aelod o'r tîm Gweithredu, byddwch yn gyfrifol am nodi, cydgysylltu a chomisiynu cymorth o bob math i helpu'r tîm i weinyddu a rheoli newid cyfansoddiadol a'r gwaith o ddiwygio'r Cynulliad a blaenoriaethau eraill y Gyfarwyddiaeth, yn ogystal â chynorthwyo timau eraill o fewn y Gwasanaeth Trawsnewid Strategol.
Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau trefnu rhagorol, bydd yn gallu gweithio'n ddigynnwrf dan bwysau gan ymateb yn gyflym mewn amgylchedd prysur ac yn ôl blaenoriaethau sy'n newid. Bydd angen gallu arbennig i drin pobl er mwyn meithrin perthynas broffesiynol â'r rhai sy'n gweithio ym mhob rhan o'r sefydliad a chyda'n partneriaid allanol.|
Bydd angen i ddeiliad y swydd ddatblygu dealltwriaeth o egwyddorion ac arfer y Cynulliad, ynghyd â'r modd y maent yn berthnasol i waith y tîm, a'r Cynulliad. Bydd angen i chi ddangos eich bod yn ddiduedd bob amser wrth gyflawni'ch dyletswyddau, a'ch bod yn gwybod pryd i uwchgyfeirio problemau/penderfyniadau at uwch swyddogion.
Gan weithio gyda'ch cydweithwyr, bydd disgwyl i chi roi cymorth sefydliadol rhagorol a dangos moeseg gref sy'n rhoi pwyslais ar wasanaeth. Byddwch yn dangos y sgiliau angenrheidiol i reoli tasgau amrywiol mewn modd hyblyg a rhagweithiol.
Os ydych am ymuno â ni, cysylltwch â ni ar www.cynulliad.cymru/swyddi
Sut i wneud cais
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00am 6 Ionawr 2020
Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio ewch i'r ddolen isod: -
Gwefan: