
Cydlynydd - Partneriaeth Tirweddau Dynodedig Genedlaethol
CNDLP1911

Mae cyfle unigryw a newydd wedi codi lle mae Llywodraeth Cymru drwy weithio gyda’r 8 Tirwedd Dynodedig yng Nghymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn sefydlu Partneriaeth Tirweddau Dynodedig Genedlaethol (NDLP). Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fydd yn cynnal y Bartneriaeth, mewn cyfnod cyffrous o gydweithredu. Mae cyllid wedi’i neilltuo am gyfnod o 18 mis ar gyfer y swydd llawn-amser, tymor penodol hon. Yn amodol ar gyllid, y gobaith yw y caiff y swydd ei hymestyn ymhellach na’r cyfnod hwn.
Byddwch chi:
- Yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu prosiectau ar y cyd i lwyddo i wireddu canlyniadau strategol y cytunwyd arnynt
- Yn rhoi arbenigedd o ran rheoli prosiectau, gan gynnwys cynllunio prosiectau, trefnu rhaglen amser, rheoli a chyflwyno adroddiadau i gynorthwyo cyrff Tirweddau Dynodedig i gyflawni prosiectau unigol
- Yn arwain nifer fach o brosiectau cydweithredol uchel eu proffil
- Yn defnyddio eich profiad proffesiynol i ymwreiddio’n briodol y newidiadau sy’n ofynnol
- Yn cydlynu’r cynigion a gyflwynir am gymorth cyfalaf o dan y gronfa SLSP a ffrydiau eraill o gyllido
- Yn cydgysylltu mentrau i rannu arferion da ar draws yr 8 o Dirweddau Dynodedig
- Yn trefnu seminar flynyddol ar gyfer Tirweddau Dynodedig Cymru
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol:
- Profiad o reoli prosiectau amlweddog sy'n cynnwys sawl partner
- Profiad o gefnogi gwaith partneriaeth yn y sector cyhoeddus neu'r trydydd sector
- Profiad o reoli a chefnogi grantiau
- Gallu profedig i flaenoriaethu gwaith, dadansoddi gwybodaeth a datrys problemau mewn modd pendant ac amserol
- Sgiliau rhagorol o gynllunio a rheoli ariannol
- Sgiliau rhagorol o gyfathrebu a chyflwyno
Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol iawn, er nad yn hanfodol.
Cyflog a Buddion; Cyflog sylfaenol hyd at £36,652, gyda 23 diwrnod o wyliau man lleiaf a gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn llywodraeth leol, trefniadau gweithio hyblyg. Defnydd car trydan neu hybrid ar brydles.
Gall y swydd naill ai fod yn swydd gweithio gartref, gweithio ym Mhencadlys APCAP yn Noc Penfro, neu mewn lleoliad swyddfa gyda phartner mewn lleoliad yng Nghymru.
Sut i wneud cais
-
Dyddiad Cau: 4 Rhagfyr 2020
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cliciwch ar y ddolen isod:
-
Gwefan: