
Cynghorydd Llys Teulu (Cymraeg yn hanfodol)

Mae Cafcass Cymru yn darparu cyngor a chymorth arbenigol sy'n canolbwyntio ar y plentyn, yn diogelu plant ac yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed mewn llysoedd teulu ledled Cymru fel bod penderfyniadau'n cael eu gwneud er eu lles gorau. Mae rôl Cynghorydd Llys Teulu yn gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant ledled Cymru sy'n ymwneud ag Achosion Llys Teulu.
Teitl y Swydd: Cynghorydd Llys Teulu (Cymraeg yn hanfodol)
Ystod Band Cyflog: £39,310 - £47,000
Cyflog dechreuol: Bydd cyflog dechreuol rhwng £39,310 a £41,560 yn cael ei gynnig i'r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar ei sgiliau, ei wybodaeth a'i brofiad, a'i berfformiad yn y cyfweliad. Ni ellir trafod yr ystod hon.
Lleoliadau: Mae gan Cafcass Cymru swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:
• Gwent (Casnewydd)
• Canolbarth a Gorllewin Cymru (Y Drenewydd, Caerfyrddin, Aberystwyth, Llandrindod)
• Gogledd Cymru (Cyffordd Llandudno, Wrecsam)
• De Cymru (Caerdydd a Merthyr Tudful)
• De-orllewin Cymru
Mae Cynghorwyr Llys Teulu yn asesu anghenion, yn diogelu ac yn hyrwyddo lles plant unigol sy'n ymwneud ag Achosion Teuluol ac yn rhoi cyngor ac adroddiadau i'r llysoedd teulu er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'r plant hyn
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
- Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster cyfwerth a gaiff ei gydnabod gan Gofal Cymdeithasol Cymru) gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso o weithio o fewn gwasanaethau diogelu i blant a'u teuluoedd yn y sector statudol
- Dealltwriaeth o anghenion plant sy'n ymwneud ag achosion cyfraith breifat a chyfraith gyhoeddus o fewn y system cyfiawnder teuluol gan gynnwys pwysigrwydd adrodd yn amserol ac osgoi oedi wrth wneud penderfyniadau i blant.
- Tystiolaeth o gynllunio achosion effeithiol a chofnodi gwaith achos gyda phlentyn/plant a theuluoedd yn unol â'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
- Cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu reoleiddiwr Gofal arall
Rydym yn ceisio recriwtio cyfran o siaradwyr Cymraeg ledled Cymru. Felly, mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd wag hon.
Sut i wneud cais
-
Rydym yn annog pob ymgeisydd posib i gysylltu â Cafcass Cymru cyn cwblhau cais i drafod y rôl a'r broses recriwtio. Cysylltwch â CafcassCymruHR@gov.Wales, gan nodi'r maes y mae gennych ddiddordeb mewn gweithio ynddo i drefnu apwyntiad i siarad â rheolwr.
Dyddiad Cau: 01/02/21 16:00
-
Gwefan: