
Tiwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg Caerdydd
10484BR

Mae Canolfan Dysgu Cymraeg Caerdydd yn darparu cyrsiau cymraeg i oedolion ar bob lefel ar ac yn cynnig ystod o gyrsiau gwahanol, gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl, gweithle a chyrsiau e-ddysgu.
Rydym yn chwilio am diwtoriaid cysylltiol newydd i ymgymryd â gwaith fesul awr, gyda'r nos yn bennaf, o lefel cyn-fynediad hyd at lefel hyfedredd yn ddibynnu ar brofiad.
Mae'r swydd hon yn un fesul awr, am gyfnod penodol, hyd at 31 Gorffennaf 2022. Os ydych am drafod y swydd mewn rhagor o fanylder, mae croeso ichi gysylltu â Lowri Bunford-Jones.
Cyflog: £27,511 - £31,866 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5)
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 31 Mawrth 2021
Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol. Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol.
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Sut i wneud cais
-
I wneud cais, ewch i'n gwefan: www.cardiff.ac.uk/jobs neu'r ddolen isod:
-
Gwefan: