
Goruchwylydd – Castell Henllys
SupCH12220C

Goruchwylydd – Castell Henllys
Llawn amser - 37 awr yr wythnos
Castell Henllys yw'r unig bentref Oes Haearn ym Mhrydain a ailadeiladwyd ar yr union safle lle'r oedd ein cyndeidiau Celtaidd yn byw 2000 o flynyddoedd yn ôl. Y Parc Cenedlaethol yw perchennog a rheolwr y safle, sy’n cynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau a rhaglen ysgolion fywiog sy'n cynnig gwersi o'r gorffennol i'n helpu i warchod y dirwedd lle’r ydym yn byw heddiw.
Bydd y Goruchwylydd yn arwain tîm profiadol i sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad rhagorol. Ymhlith y cyfrifoldebau bydd masnachu, marchnata, digwyddiadau a gweithgareddau, cadw ty a chynnal a chadw’r safle.
Sgiliau a Phrofiad:
- Profiad o oruchwylio a rheoli safle yn y maes rheoli hamdden / twristiaeth / ymwelwyr.
- Lefelau rhagorol o wasanaeth i gwsmeriaid ynghyd â phrofiad mewn manwerthu gan gynnwys systemau til a stoc.
- Yn frwd dros hanes a diwylliant Cymru ynghyd â dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o ddibenion y Parc Cenedlaethol.
- Sgiliau trefnu, gweinyddu a TG rhagorol ynghyd â'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael cliriad DBS.
Cyflog a Buddiannau: Cyflog sylfaenol hyd at £21,748, lleiafswm o 23 diwrnod o wyliau a gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn llywodraeth leol, trefniadau gweithio hyblyg, cyfleoedd datblygu gyrfa.
Dyddiad Cau: 26 Chwefror 2021
Sut i wneud cais
-
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i wneud cais
-
Gwefan: