
Uwch Gynllunydd
SenPlan12220C

Llawn amser – 37 awr yr wythnos (am dymor penodol o flwyddyn i gychwyn gyda’r posibilrwydd o ddod yn swydd barhaol).
Dyma’r unig barc cenedlaethol arfordirol go iawn yng ngwledydd Prydain – lle mae clogwyni geirwon yn ymestyn i lawr i draethau hirfelyn, a dyffrynnoedd coediog yn arwain i fyny i fynyddoedd gwyllt mewndirol – wrth reswm, mae i gynllunio ran allweddol yn ein cyfrifoldeb am y lle arbennig hwn.
Diben y Swydd:
Drwy weithio gyda’r tîm Rheoli Datblygu, mae’r swydd Uwch Gynllunydd yn cynnig cyfle i gyfrannu at wasanaeth ymatebol sy’n anelu at fod yn hyrwyddwr egwyddorion ac arferion datblygu cynaliadwy. Ar yr un pryd, byddwch yn mwynhau byw a gweithio yn un o ardaloedd prydferthaf Prydain. Swydd tymor penodol o flwyddyn yw’r swydd hon yn y lle cyntaf gyda’r posibilrwydd o ddod yn swydd barhaol.
Prif Gyfrifoldebau:
Cymwysterau, Sgiliau a Phrofiad:
• Gyda phrofiad perthnasol o weithio mewn Rheoli Datblygu a delio ag amrediad o geisiadau cynllunio amlweddog a materion perthynol, bydd gennych radd mewn cynllunio, dealltwriaeth o’r materion cyfredol diweddaraf mewn llywodraeth leol a pharciau cenedlaethol yn ogystal â dealltwriaeth gadarn o’r system a’r prosesau cynllunio.
- Ymagwedd gadarnhaol at faterion Rheoli Datblygu ac at gwsmeriaid/ rhanddeiliaid, gyda’r gallu i ddelio’n effeithiol â chwsmeriaid a sefyllfaoedd anodd.
- Bod yn ymwybodol o ddylunio da ac arddulliau cynhenid lleol a’u gwerthfawrogi, a phrofiad o egwyddorion ac arferion dylunio cynaliadwy.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig ar bob mater cynllunio a gorfodi, a chyd-drafod modd priodol o ddatrys materion a gwneud gwelliannau lle bynnag y bo’n bosibl.
- Y gallu i weithio fel aelod hunanysgogol o dîm sy’n cyflawni gwaith i derfynau amser ac o fewn adnoddau y cytunwyd arnynt.
- Yn fedrus iawn mewn trefnu a rheoli gweithio mewn tîm a sgiliau ardderchog o reoli amser.
- Sgiliau Technoleg Gwybodaeth ardderchog, a’r gallu i gofnodi gwybodaeth yn ofalus iawn.
- Ffefrir ymgeiswyr sydd â phrofiad o orfodi rheoliadau cynllunio a’r gallu i siarad Cymraeg.
Cyflog a Buddion:
Cyflog sylfaenol rhwng £27,741 a £32,234 (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad), lleiafswm o 23 diwrnod o wyliau, yn codi i 28 diwrnod, ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn llywodraeth leol, trefniadau gweithio hyblyg, a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Lleolir y swydd yn ein Pencadlys yn Noc Penfro gyda’r cyfle i weithio o gartref os cymeradwyir hynny neu weithio o swyddfeydd lloeren. Mae'r Pencadlys yn Noc Penfro yn 8 munud o gerdded o'r orsaf reilffordd agosaf, mae gennym gyfleusterau parcio beiciau diogel a digon o le i barcio ceir. Hefyd rydym yn gweithredu cynllun ceir yr Awdurdod ar gyfer ymweliadau safle.
Dyddiad Cau: 26:02:21
Sut i wneud cais
-
Cliciwch ar y ddolen isod am ragor o wybodaeth ac i wneud cais:
-
Gwefan: