
Gweithiwr Achos - Comisiynydd Traffig (Cymru)

Ydych chi'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ysgrifenedig a llafar?
A oes gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol â'r gallu i greu perthnasoedd effeithiol ag uwch ddeiliaid swyddi a rhanddeiliaid?
Rydym yn chwilio am rywun i ymuno ag a helpu i adeiladu tîm bach yn Swyddfa'r Comisiynydd Traffig. Byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i'r Comisiynydd Traffig i'w alluogi i ymgymryd â’u dyletswyddau statudol ar gyfer gofynion trwyddedu cerbydau yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys prosesu gwaith achos a gwneud trefniadau ar gyfer ymchwiliadau cyhoeddus.
Cyfrifoldebau
Fel aelod o'r tîm bydd rhai o gyfrifoldebau allweddol eich rôl yn cynnwys:
• llunio a drafftio cyflwyniadau cywir a llawn i'r Comisiynydd Traffig yn argymell camau gweithredu a phrosesu'r achos yn ôl yr angen
• darparu gwasanaeth ymchwiliad cyhoeddus, gwrandawiad ymddygiad gyrwyr a gwrandawiad powndio o ansawdd uchel i’r Comisiynydd Traffig
• cydgysylltu pan fo angen gyda DVSA, yr heddlu ac Asiantaethau ac Adrannau eraill y Llywodraeth a mynychu cyfarfodydd ar ran y Comisiynydd Traffig
• drafftio ymatebion i ohebiaeth gan ASau, cymdeithasau masnach ac awdurdodau lleol ar ran y Comisiynydd Traffig
• monitro perfformiad y swyddfa a gweithredu yn ôl yr angen
• delio ag ymholiadau dros y ffôn a’r rhai ysgrifenedig
I gael cipolwg manylach ar y rôl hon, cyfeiriwch at y proffil rôl sydd ar gael trwy'r ddolen rhagor o wybodaeth.
Amdanoch Chi
Rydych chi'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ysgrifenedig a llafar.
Gallwch weithio'n effeithiol o fewn tîm neu’n annibynnol ar eich menter eich hun. Mae gennych y gallu i ddeall a dehongli deddfwriaeth gymhleth â sgiliau rhagorol ym meysydd dadansoddi a datrys problemau.
Mae gennych wybodaeth ymarferol dda o becynnau Microsoft gan gynnwys Excel a Word.
Wrth symud ymlaen, rydym wedi’n hymrwymo i annog a galluogi ein staff i ddatblygu yn uwch na'u rôl a byddant yn eich cefnogi i ymgymryd â chyfleoedd/cymwysterau datblygu pellach.
Sut i wneud cais
-
Dyddiad cau: 11:55 pm ar ddydd Gwener 16eg o Ebrill 2021
Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio ewch i'r ddolen isod : -
Gwefan: